Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 18 Mai
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3593
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Yn dilyn y cyfarfod ar 11 Mai 2016, parhaodd y Llywydd gyda phroses enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Gofynnodd y Llywydd am gadarnhad bod enwau Carwyn Jones a Leanne Wood yn parhau.
Tynnodd Rhun ap Iorwerth enwebiad Leanne Wood yn ôl.
Pwynt o Drefn
Cododd Mark Reckless bwynt o drefn ynghylch tynnu enwebiad Leanne Wood fel Prif Weinidog yn ôl gan ddyfynnu Rheol Sefydlog 8.3 bod yn rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw'r gofrestr pe byddai'r pleidleisiau'n gyfartal. Dyfarnodd y Llywydd y byddai'n afresymol gorfodi unrhyw un nad oedd bellach yn dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd ac nad oedd darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ail-agor yr enwebiadau wedi iddynt gael eu cau.
Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, dywedodd y Llywydd y byddai'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog.
Gwahoddodd y Llywydd Carwyn Jones i annerch y Cynulliad, a dilynwyd ef gan arweinwyr y gwrthbleidiau.
Dechreuodd yr eitem am 14.03.
Cyflwynodd Jane Hutt gynnig heb rybudd o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i ddwyn ymlaen y cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r cyfarfod llawn nesaf ar 24 Mai 2016, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daeth y cyfarfod i ben am 14.04
Bydd y Cynulliad yn eistedd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13.30 ddydd Mawrth 24 Mai 2016 yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog.